Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Ionawr 2023
Amser:
09.30 -
14.52
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13176
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Russell George AS |
Tystion: |
Sally May, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Darren Hughes, Conffederasiwn GIG Cymru Alwyn Jones, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Dave Street, Association of Directors of Social Services (ADSS) Jon Rae, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Lis Burnett, Cyngor Bro Morgannwg Anthony Hunt, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Llinos Medi, Cyngor Sir Ynys Môn Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Emma Watkins, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
Cofrestru (09.00-09.15)
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09:15-09:30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid,
1.2 Roedd Russell George AS yn bresennol ar gyfer eitemau 1 a 2 yn dirprwyo ar ran Peter Fox AS. Roedd Peter Fox MS yn bresennol yn ystod gweddill y cyfarfod.
2 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Sesiwn dystiolaeth 6
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sally May, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg; Darren Hughes, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru; Alwyn Jones, Llywydd, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru); a Dave Street, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fel rhan o’r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.
Egwyl (10.30-10.40)
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Sesiwn dystiolaeth 7
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cycmru, y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen; y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Ynys Môn; a’r Cynghorydd Lis Burnett, Aweinydd Cyngor Bro Morgannwg fel rhan o’r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 5, 7 ac 8; a’r cyfarfod nesaf.
4.1 Derbyniwyd y cynnig
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law
Cinio (11.55-12.45)
6 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Sesiwn dystiolaeth 8
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth fel rhan o’r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24.
6.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu:
· Gwybodaeth am y gyfradd benthyca y mae Llywodraeth Cymru yn ei chael gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus.
6.3 Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y byddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu gwybodaeth am y canlynol:
· Sefyllfa ariannol Byrddau Iechyd Lleol
· Sut y gall y GIG fod yn fwy effeithlon;
· I ba raddau y mae’r Byrddau Iechyd Lleol wedi manteisio ar fentrau buddsoddi i arbed a mentrau cysylltiedig eraill i wella effeithlonrwydd ynni.
7 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24: Trafod y dystiolaeth / Y prif faterion
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a’r prif faterion
8 Trafod Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022
8.1 Trafododd y Pwyllgor y rheoliadau treth.